Aled Ellis-Davies Daw Aled Ellis-Davies o Gaernarfon ac mae wedi bod yn aelod o nifer o fandiau llwyddiannus, gan gynnwys Am Dwrw, Amddiffyn a Hitchcock. Grŵp roc oedd Am Dwrw gydag aelodau o chweched dosbarth Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon. Aled oedd prif leisydd y band, a buon nhw'n chwarae gigs ledled Cymru gyda rhai o fandiau mwyaf y sîn roc Gymraeg - Y Cyrff, Anrhefn, Jess, Sobin a'r Smaeliaid a Ffa Coffi Pawb. Fe werthodd y band pob copi o'u tâp cyntaf Rhyw, Cwrw ac Am Dwrw mewn un diwrnod yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989. Wedi i Am Dwrw wasgaru mi aeth Aled i ganu i'r band Amddiffyn. Fe berfformion nhw sawl sesiwn i Radio Cymru ac ymddangos ar bob cyfres o'r rhaglen Fideo 9. Er hyn, y cyfnod mwyaf cofiadwy i Aled oedd gyda'r band Hitchcock, a chwaraeodd cyfres o gigs cyffrous yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnwys 1994 gyda Diffiniad, 1995 gyda Gorkys a 1996 gyda Super Furry Animals, ynghyd ac ymddangos ar raglen I-dot, S4C. Er nad yw Aled wedi perfformi! o ers deng mlynedd bellach, mae dal yn ymddiddori mewn cerddoriaeth drwy gyfansoddi, chwarae'r gitâr a recordio rhywfaint gydag offer yn ei gartref. Er hyn mae ei fab Gruff, sydd yn flwydd a hanner, a'i waith yng Nghyngor Gwynedd yn ei gadw'n ddigon prysur. Pan Mae'r Haul Yn Codi Cafodd Aled a'i ffrind y syniad o gystadlu yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2012 ym mis Awst 2011, ond yng nghanol prysurdeb eu bywydau mi aeth y prosiect yn angof tan y funud olaf. Gyda'r gân ar ei hanner, roedd y gwaith cyn y ...
0 comments: